Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 23 Hydref 2018

Amser: 09.30 - 10.17
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5067


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

David J Rowlands AC (Cadeirydd)

Rhun ap Iorwerth AC

Janet Finch-Saunders AC

Mike Hedges AC

Neil McEvoy AC

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc)

Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau. 

</AI1>

<AI2>

2       Deisebau newydd

</AI2>

<AI3>

2.1   P05-840 Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) a phob Awdurdod Lleol arall

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n Gynghorydd ar Gyngor Caerdydd ar hyn o bryd.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno ar y camau a ganlyn:

o   cheisio eglurhad ar sut y bydd y £30 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer Gofal Cymdeithasol a nodir yn y gyllideb ddrafft yn cael ei ddyrannu a'i ddarparu.

</AI3>

<AI4>

2.2   P-05-841 Cynnwys cynnig amgen ‘Pont Benidgeidfran’ ar gyfer trydedd bont dros y Fenai yn y broses asesu ffurfiol

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am ei farn am sylwadau manwl y deisebydd ac a yw'n barod i gynnwys cynnig y deisebydd yn ffurfiol ochr yn ochr â'r opsiynau gwreiddiol yn ystod dadansoddiad arall o strwythur y bont.

 

</AI4>

<AI5>

2.3   P-05-842 Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu sylwadau'r deisebwyr a gofyn iddo am ymateb manwl.

</AI5>

<AI6>

2.4   P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno ar y camau a ganlyn:

</AI6>

<AI7>

2.5   P-05-844 Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot ar unwaith

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn am ei barn am y manteision o gyflwyno dull i sicrhau y dylai ceisiadau i newid cynnwys CDLl, rhwng adolygiadau statudol, gael eu cofnodi a'u hystyried yn briodol.  Nododd y Pwyllgor y bydd, efallai, am gynnal sesiwn dystiolaeth ar hyn a materion cynllunio eraill yn y dyfodol pan fydd wedi trafod yr ymateb a geir.

</AI7>

<AI8>

2.6   P-05-845 Rhowch Derfyn ar Wrthdaro Buddiant yng Nghyfansoddiad Awdurdodau Lleol

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu at y canlynol:

 

·         Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol i ofyn am ei farn am y materion a godwyd yn y ddeiseb.

</AI8>

<AI9>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI9>

<AI10>

3.1   P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan nifer o randdeiliaid a chytuno i ysgrifennu at y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol i wneud y canlynol:

 

 

</AI10>

<AI11>

3.2   P-05-825 Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r deisebydd a chytuno i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd i wneud y canlynol:

 

·         gofyn a fyddai'r awgrymiadau a wnaed yn helpu i lywio Cynllun Aer Glân i Gymru.

</AI11>

<AI12>

3.3   P-05-824 Ffordd Osgoi Derwen Brimmon y Drenewydd

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Cyngor Powys a'r deisebwyr a chytuno i ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ar ôl iddo ymateb i Gyngor Sir Powys.

</AI12>

<AI13>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 7.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 5

Derbyniwyd y cynnig.

</AI13>

<AI14>

5       Trafodaeth ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor ei Flaenraglen Waith a chytuno ar amserlen o sesiynau tystiolaeth yn ystod mis Tachwedd, ac i ailedrych ar y Flaenraglen Waith yn ddiweddarach yn nhymor yr hydref.

 

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>